Mae Cymdeithas Tai First Choice yn darparu llety ar gyfer pobl sydd gydag anableddau dysgu a synhwyrol neu ymddygiadau sy’n creu sialens i’w gwasanaethau.  Yn flaenorol, roedd y rhan fwyaf o’n tenantiaid mewn sefydliadau tymor hir fel Ysbyty Elai yn Ne Cymru ac Ysbyty Bryn y Neuadd yng Ngogledd Cymru.   

Mae First Choice hefyd yn darparu llety seibiant ac ymyrraeth argyfwng i oedolion a phlant ledled Cymru.

Pwrpas ein holl lety yw bod yn “gartrefi cyffredinol mewn strydoedd cyffredinol”.


 

New Vacancy Available:

Development Officer

1 Year Fixed Term

 

 

Rhanberchenogaeth

Mae First Choice yn mynd i gymryd rhan mewn cynllun rhanberchenogaeth ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu, ar y cyd â Shared Ownership Homes, a sefydlodd y model yn llwyddiannus yn Lloegr.  Nid yw’r model yn dibynnu ar Grant Tai Cymdeithasol ac felly mae’n gallu ymateb i alw.  Hefyd, gallai’r model gael ei ddefnyddio gan unigolion sydd ag anghenion cymhleth. Darperir llety mewn amryw o fathau gwahanol o lety, o eiddo un gwely i chwe fflat annibynnol yn yr un adeilad, ond gallant roi llety i fwy neu lai o unigolion.

Mae rhanberchenogaeth yn helpu i dorri’r arfer o ddibynnu ar y nifer cyfyngedig o ddewisiadau sydd ar gael i bobl anabl, fel y model byw ar y cyd.  

Bydd angen i’r awdurdod lleol perthnasol gytuno ar y pecyn cymorth unigol pan fydd y cynllun rhanberchenogaeth yn cael ei roi wrth waith.

Yn ogystal, fe fydd y Gymdeithas yn gweithio ar fodelau eraill o fod yn berchen ar gartref, drwy ddefnyddio Grant Tai Cymdeithasol a chyfalaf unigolyn.

 

Rhanberchenogaeth

 

 

 
 

Ym mhle rydym yn gweithio?

 

Gall First Choice weithio yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Yn bresennol, rydym yn gweithio mewn 17 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn Sir Amwythig, Lloegr.

 Blaenau Gwent  Gwynedd
 Bridgend  Neath and Port Talbot
 Caerphilly  Powys
 Caerdydd              Rhondda Cynon Taff
 Carmarthenshire  Shropshire
 Ceredigion      Swansea
 Conwy  Torfaen
 Denbighshire  Vale of Glamorgan
 Flintshire  Wrexham
 
 

Gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol

 

Mae First Choice yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol i gyflawni anghenion llety pobl sydd gydag anabledd dysgu.  Mae Cytundebau Cefnogi ar gael sy’n amlinellu cyfrifoldebau priodol y Gymdeithas ac awdurdodau lleol a chant eu harolygu’n flynyddol.

 
 
 
Cefnogaeth ar gyfer Tenantiaid a Defnyddwyr y Gwasanaeth

Mae Awdurdodau Lleol yn cytundebu gydag amryw o sefydliadau i gefnogi tenantiaid yn eu cartrefi eu hunain a defnyddwyr y gwasanaeth mewn llety dros dro neu lety seibiant.  Mae Cytundebau Cefnogi ar gael sy’n amlinellu cyfrifoldebau priodol y Gymdeithas ac awdurdodau lleol, a chant eu harolygu’n flynyddol.

 

Cynllun Iath Gymraeg

Cofrestredig gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.  J904.  Cofrestredig gyda statws elusennol o dan y Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965:  26118R


Gwefan wedi’i dylunio, ei chreu ac yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Tai First Choice Cyf

nol i’r top

Cysylltu â ni Datganiad Preifatrwydd  Dulliau gwneud Cwyn 19 Stanwell Rd, Penarth, Bro Morgannwg, CF64 2EZ