Cymryd rhan yn First Choice

Mae First Choice wedi bod yn cynnal rhaglenni o weithdai i denantiaid ers 2004.  Fe benderfynon ni bod y cynadleddau i denantiaid y cynhalion ni o’r blaen yn rhy fawr i bawb eu mwynhau yn iawn.

Drwy ddod â grwpiau llai at ei gilydd yn fwy aml, roeddem o’r farn y gallai ein tenantiaid ddysgu mwy am eu landlord, eu cartref a’u hawliau a’u cyfrifoldebau.

Mae’r gwahanol bethau rydym ni wedi eu trafod yn y gweithdai yn cynnwys:

1. Iechyd a diogelwch yn y cartref
2. Cymryd Rhan yn First Choice
3. Gwneud newidiadau yn y cartref
4. Hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid
5. Fy mywyd, fy anifail anwes, fy ngardd

Mae’r gweithdai hefyd yn rhoi cyfle i’n tenantiaid a’u staff cymorth i gyfarfod ei gilydd a chael sgwrs am bethau sydd ganddynt mewn cyffredin.

Mae pawb sy’n mynychu’r gweithdai yn cael tystysgrif.
 

 

Cymryd Rhan in Dewis Cyntaf


 

Sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr

Mae ein ffyrdd arloesol ac ymarferol o ymrwymo tenantiaid yn cael ei ganmol yn fawr.  Rydym wedi ennill 8 gwobr am y ffyrdd yr anogir tenantiaid i gymryd rhan yn y Gymdeithas:

·

Gwobr Cyfrangoiad TPAS (Cymru) 2000 (1998)

·

Gwobr Sefydliad Siartredig Tai Cymru ar gyfer Arfer da mewn Cyfranogiad Preswyliwr (1999)

·

Gwobr Arloesol Pat Chown (2001)

·

Gwobr Cyfranogiad mewn Llety Cymorth TPAS (Cymru) (2002)

·

Gwobr Integreiddio Pobl Bregus TPAS (Cymru) (2004)

·

Gwobr Cyfranogiad Llety Cymorth TPAS (Cymru) (2004)

·

Gwobr Cyfathrebu mewn Tai Cymru TPAS (Cymru) Wales Communication in Housing Award (2005)

· Gwobr Cyfranogiad mewn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig TPAS (Cymru)  (2005)

 

 

 

 

 

 

 

TPAS Gwobr 2005

 

 

Gweithdai i Denantiaid First Choice

Mae First Choice wedi bod yn cynnal rhaglen weithdai i denantiaid ers 2004.  Penderfynom fod y cynadleddau i denantiaid a gynhaliom yn flaenorol yn rhy fawr i bawb eu mwynhau yn iawn.

Wrth ddod a grwpiau llai at ei gilydd yn fwy aml, roeddem ni’n meddwl y gallai ein tenantiaid ddysgu mwy am eu landlord, eu cartref a’u hawliau a chyfrifoldebau:
 
Fel arfer, rydym ni’n  cynnal pum gweithdy - un y mis – sy’n ymdrin â’r pynciau canlynol:
 
 1. Iechyd a diogelwch yn eich cartref
 2. Cymryd Rhan yn First Choice
 3. Gwneud newidiadau i’ch cartref
 4. Hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid
 5. Arolwg o’r holl bynciau
 
Ar ddiwedd pob gweithdy, rydym ni’n cynnal cwis i weld faint mae pawb wedi dysgu.  Yn y gweithdy olaf, ble rydym ni’n siarad am bopeth rydym ni wedi’u trafod yn y pedwar gweithdy blaenorol, rydym ni’n cynnal cwis mawr gydag anrhegion ar gyfer yr enillwyr.
Rhoddir tystysgrif i bawb sy’n mynychu’r gweithdai.

             

 

 




 

Byw yn eich cartref

Nod y canllaw hyfforddi a’r llyfryn gwaith yma i denantiaid yw cynyddu nifer y ffyrdd y gellir hysbysu tenantiaid sydd ag anabledd dysgu am eu hawliau a’u cyfrifoldebau fel tenantiaid.  Gweithredwyd y prosiect gan Gymdeithas Tai First Choice Cyf, Consortiwm Tai Gorllewin Morgannwg, a Cartrefi Cymru.  Noddwyd y prosiect yn rhannol drwy Raglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol 2003-2004 Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 Roedd dau nod i’r prosiect:- 

1.      I alluogi tenantiaid sydd ag anabledd dysgu i hyfforddi tenantiaid eraill ar hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid.

2.      I gynhyrchu llyfryn gwaith ar hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a allai gael ei ddefnyddio gartref gan denantiaid.

Gellir llawr lwytho'r canllaw hyfforddi Byw yn eich cartref o’r wefan hon.  Hefyd, gallwch chi gysylltu â First Choice i dderbyn copi, sy’n cynnwys CD rom sy’n cyd-fynd â’r pecyn hyfforddi.  Codir ffi o £25 ar gyfer costau gweinyddol.

Lawr lwythwch gopi o’r ddogfen Byw yn eich cartref yma:

       Byw yn eich cartref

nol i’r top
Cysylltu â ni Datganiad Preifatrwydd  Dulliau gwneud Cwyn 19 Stanwell Rd, Penarth, Bro Morgannwg, CF64 2EZ