Cymdeithas Tai First Choice - Preifatrwydd

Mae parchu ac amddiffyn preifatrwydd defnyddwyr ein gwefan yn rhan o’n polisi ni. Ni wnawn ni fyth ddatgelu gwybodaeth yn fwriadol am ddefnyddwyr ein gwefan heb eu caniatâd nhw.  Mae’r datganiad polisi yma’n eich hysbysu chi sut rydym ni’n casglu gwybodaeth gennych chi a’i ddefnyddio.

Efallai y bydd achosion ble byddwn ni’n gofyn i chi am wybodaeth bersonol fel eich enw, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.  Yr unig adeg y byddwn ni’n gwneud hyn yw pan rydym ni angen y wybodaeth hynny am bwrpasau penodol, er enghraifft i ateb ymholiad sydd gennych chi neu i anfon gwybodaeth rydych chi wedi gofyn amdano.

Os ar unrhyw adeg, ar ôl rhoi gwybodaeth bersonol i ni, rydych chi’n penderfynu nad ydych chi eisiau i ni gadw neu ddefnyddio’r wybodaeth yma mwyach, cysylltwch â ni a byddwn ni’n gwneud ymdrech i gael gwared â’r wybodaeth cyn gynted â phosib.

Un amod ar gyfer defnyddio ein gwefan yw eich bod chi’n cydnabod a chytuno y bydd angen i ni efallai, mewn rhai achosion, ddatgelu eich gwybodaeth chi i drydedd partïon, er enghraifft, er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol neu i gydymffurfio ag unrhyw broses gyfreithiol. 

Nid ydym ni’n casglu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chyfeiriadau IP ac nid ydym ni’n defnyddio cwcis ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddiwr o’r safle hon

Mae ein gwefan ni’n cynnwys cysylltiadau i safleoedd eraill, sydd tu allan i’n rheolaeth ni ac sydd ddim yn rhan o’r polisi preifatrwydd yma.  Os ydych chi’n ymweld â safleoedd eraill gan ddefnyddio’r cysylltiadau a ddarperir, efallai y defnyddir eich gwybodaeth gan weithredwr y safle yn unol â pholisi preifatrwydd y safle, sydd efallai yn wahanol i’n un ni.

Os gwelwch yn dda, pan rydych chi’n datgelu gwybodaeth bersonol ar-lein, - er enghraifft, drwy ein fforymau neu ystafelloedd sgwrsio - cadwch mewn cof y gall trydydd partïon nad ydych chi na ni’n eu hadnabod, gasglu a defnyddio’r wybodaeth yma. Felly, ni allwn ni sicrhau diogelu’r wybodaeth rydych chi’n datgelu ar-lein, ac rydych chi’n cydnabod a chytuno eich bod chi’n gwneud hyn ar eich cyfrifoldeb eich hun.

Rydym ni’n cadw’r hawl, fel y gwelwn orau, i newid y polisi yma ar unrhyw adeg.  Edrychwch ar y dudalen hon o dro i dro.

Cymdeithas Tai First Choice– Cydraddoldeb

Mae’r Gymdeithas wedi’i hymroddi’n llawn i amrywiaeth ac ein nod yw darparu ein holl wasanaethau a chyfloed cyflogaeth ar sail deg ac ecwitïol.   

Mae gan y Gymdeithas bolisïau cyfle cyfartal cynhwysfawr, rhestri gwirio a chynlluniau gweithredu mewn lle er mwyn ein helpu ni i gyflawni ein nod. 

Mae’r Gymdeithas wedi gweithredu Strategaeth Poblogaeth Ddu a Lleiafrifol Ethnig cynhwysfawr gyda’r nod o ddarparu fframwaith ar gyfer delio gydag anffafriaeth hiliol.  Mae hyn yn egluro amcanion a thargedau’r Gymdeithas ar gyfer tai. Mae’r strategaeth hon yn adlewyrchu’r amcanion a chanlyniadau targed a amlinellwyd yng Nghynllun Gweithredu Poblogaeth Ddu a Lleiafrifol Ethnig (BME) Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cymru. Mae’r Gymdeithas yn gwerthuso effeithiolrwydd ei gweithrediadau drwy fonitro perfformiad.