Tudalen Cynnal a Chadw

Click here for our: Asbestos Management Plan

 

 

 

 

 

 

 

 

 
Cynnal a Chadw ac Atgyweiriadau

Mae First Choice yn gyfrifol am gadw strwythur eich ty mewn cyflwr da.  Mae hyn yn cynnwys tu fewn a thu allan eich cartref, draeniau, trwsio cwteri, peipiau dŵr glaw, systemau nwy a phlymio, baddonau, toiledau, cyflenwadau gwres a dŵr poeth.


Ffeil Cael Pethau wedi’u Trwsio

Yn eich cartref, mae ffeil o’r enw “Cael Pethau wedi’u Trwsio”.  Mae’r ffeil yn dweud popeth wrthych chi am y gwasanaeth cynnal a chadw y gellwch ei ddisgwyl gan First Choice.


Talu am atgyweiriadau


Bydd First Choice yn talu am atgyweiriadau i’ch cartref, ond os byddwch chi, eich staff cefnogi neu ymwelwyr yn torri rhywbeth trwy ddamwain neu ar bwrpas, bydd rhaid i chi dalu am hynny eich hunain.


Pwy sy’n gyfrifol am yr atgyweiriadau a’r cynnal a chadw?


Contractwyr yw enwau’r bobl sy’n cwblhau atgyweiriadau i’ch cartref.  Byddan nhw’n gadael i chi wybod pa bryd byddan nhw’n dod i’ch cartref, oni bai ei fod yn drwsiad argyfwng.  Os bydd yn argyfwng, byddan nhw’n trio dod o fewn 24 awr.


Mae’r holl gontractwyr yn arwyddo “Cod Ymddygiad”.  Mae hyn yn golygu bod rhaid iddyn nhw fod yn gwrtais ac yn gymorth pan maen nhw’n gweithio yn eich cartref.  Mae rhaid iddyn nhw gwblhau’r gwaith yn eich cartref yn ddiogel.


Bydd staff First Choice yn ymweld â’ch cartref unwaith y flwyddyn i sicrhau ei fod mewn cyflwr da.  Os bydd angen cwblhau unrhyw waith, bydd First Choice yn trefnu hyn.

 

 

 


Son am atgyweiriad

Cam 1 - Cwblhau ffurflen cais am atgyweiriad.
Mae’r ffurflenni yn y ffeil “Cael Pethau wedi’u Trwsio” yn eich cartref.
Gellwch hefyd ddefnyddio’r cyswllt uchod i anfon ffurflen ar-lein.

Cam 2 – anfonwch y ffurflen cais am atgyweiriad i Cymdeithas Tai First Choice Cyf, 19 Stanwell Road, Penarth, Bro Morgannwg.  CF64 2EZ.

Bydd First Choice yn penderfynu os yw’r atgyweiriad yn argyfwng, pwysig, dydd i ddydd neu atgyweiriad i’w gynllunio.  Wedyn, bydd First Choice yn anfon archeb gwaith i gontractwr.  Bydd copi o’r archeb gwaith yn cael ei anfon i’ch cartref fel eich bod yn gwybod pryd caiff yr atgyweiriad ei gwblhau.

 

 

 


Mathau o Atgyweiriadau

Atgyweiriadau argyfwng yw atgyweiriadau a fydd efallai yn achosi niwed i chi neu efallai a fydd yn creu difrod difrifol i’ch cartref.  Byddan nhw’n cael eu hatgyweirio mewn 24 awr.  Mae atgyweiriadau argyfwng yn cynnwys:-

Dim dŵr poeth
Dim gwres yn ystod y gaeaf
Peipiau wedi rhwygo a gollyngiadau plymbio difrifol
Dreiniau wedi blocio neu sy’n gollwng
Dim cyfleusterau toiled neu ymolchi, a dim rhai eraill yn y cartref.


Os oes gennych chi atgyweiriad argyfwng, ffoniwch First Choice.  Os nad yw ein swyddfeydd ar agor, ffoniwch un o’n contractwyr eich hunain.  Mae rhestr o gontractwyr yn y ffeil Cael Pethau wedi’u Trwsio yn eich cartref neu cliciwch ar y map uchod.  Os na fydd un o’n contractwyr yn gallu eich helpu chi, gellwch ddefnyddio unrhyw gontractwr, er enghraifft, o’r Yellow Pages.  Os gwelwch yn dda, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl i adael i ni wybod os ydych wedi cysylltu â chontractwr mewn argyfwng.

Argyfwng

 

Pwysig

Atgyweiriadau pwysig yw atgyweiriadau difrifol a chant eu hatgyweirio mewn 7 diwrnod.

Dydd i ddydd

Atgyweiriadau dydd i ddydd yw pethau fel tap sy’n gollwng sydd ddim angen cael ei atgyweirio mor gyflym gan nad oes neb mewn perygl.  Cant eu hatgyweirio mewn 28 diwrnod.

I'w gynllunio

Atgyweiriadau i’w cynllunio yw atgyweiriadau bychain a gaiff eu cwblhau o fewn 3 mis fel rhan o’r rhaglen cynnal a chadw sydd wedi’i chynllunio.


Addurno

Bydd First Choice yn addurno tu allan i’ch cartref pob pum mlynedd, ac unrhyw ffensys sydd yn berchen I First Choice.

 
Chi eich hunain sy’n gyfrifol am addurno eich ystafell wely.

Bydd y sefydliad sy’n eich darparu chi gyda gwasanaethau eiddo a rheoli ychwanegol yn sicrhau bod y rhannau o’ch cartref a gaiff eu rhannu yn cael eu haddurno.  Y rhannau a gaiff eu rhannu yw’r ystafell ymolchi, gegin, cyntedd, lolfa ac ystafell fwyta. Caiff hyn ei dalu gan y tâl am wasanaeth sy’n cael ei gynnwys yn eich rhent.


Newidiadau

Mae First Choice yn gwybod y bydd efallai angen gwneud newidiadau i gartref fel ei fod yn addas ar gyfer tenant newydd, neu oherwydd bod pobl sy’n byw yn y tŷ yn barod efallai eisiau newidiadau oherwydd bod eu hanghenion wedi newid.

Dylai ceisiadau am newidiadau gael eu rhoi mewn llythyr i First Choice.  Wedyn byddwn yn ateb o fewn 14 diwrnod.  Ble’n bosibl, byddwn yn dweud “Ia”.

Bydd First Choice yn cydweithio gyda thenantiaid, Darparwyr Cefnogaeth ac adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn cael yr arian i dalu am y newidiadau yma.

Os GELLIR gwneud y newidiadau i’r tŷ, gall First Choice ofyn am arian o 5 lle gwahanol:- 

1)         Llywodraeth Cynulliad Cymru

2)         Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol

3)         Eich Darparwyr Gwasanaeth

4)         Efallai y byddwch chi yn gallu talu

5)         Efallai y bydd First Choice yn gallu talu

Dylai’r gwaith gael ei gwblhau i safon dda ac un mae First Choice yn hapus ganddo, dim ots o ble y daw’r arian i dalu am y newidiadau.

Bydd First Choice yn dweud wrth y tenant a’r Darparwr Cefnogaeth pwy fydd yn gyfrifol yn y dyfodol am edrych ar ôl (“cynnal”) y rhan o’r tŷ sydd wedi newid.  Efallai bydd rhaid I First Choice gwblhau’r gwaith neu’r tenant neu’r Darparwr Gwasanaeth.

Os oes angen “Caniatâd Cynllunio”, yna dylid cytuno ar hyn cyn dechrau unrhyw newidiadau.  Dylid rhoi copïau o’r gwaith papur hyn i First Choice i’w cadw yn y swyddfa.

Pan fydd y tenant oedd eisiau’r newidiadau yn gadael y tŷ i fyw yn rhywle arall, gallan nhw dynnu’r newid os ydyn nhw wedi talu amdano.  Fodd bynnag, mae rhaid iddyn nhw sicrhau y caiff y rhan o’r tŷ ei newid i ‘w gyflwr blaenorol.

 

 

 

 

 

 


Costau ychwanegol

 

Bydd First Choice yn talu am atgyweiriadau i’ch cartref, ond os byddwch chi, eich ymwelwyr neu eich staff cefnogi yn torri unrhyw beth drwy ddamwain neu ar bwrpas, bydd rhaid i chi dalu am ei atgyweirio eich hunain.

£ £ £ £

nol i’r top

Cysylltu â ni Datganiad Preifatrwydd Dulliau gwneud Cwyn 19 Stanwell Rd, Penarth, Bro Morgannwg, CF64 2EZ